Cyfleuster cymunedol yw Canolfan Hamdden Tregaron,sy’n cael ei redeg ar gyfer preswylwyr y dre a’r ardaloedd cyfagos er lles adloniant,chwaraeon,gweithgareddau iach a ffocws gymunedol.

Rydym yn croesawu pawb o bob oedran a gallu i ddod i fwynhau ein cyfleusterau.Mae gennym nifer o glybiau chwaraeon gyda hyfforddwyr trwyddedig,campfa sy’n meddu ar offer safonol,cwrt sboncen,ac os dymunir lleoliad ar gyfer cynhadledd neu gyfarfodydd-medrwn drefnu hynny hefyd.Ar adegau arbennig o’r flwyddyn rydym yn trefnu gwahanol ddosbarthiadau ffitrwydd.Cymerwch gip ar ein rhaglen gyfredol.

Tref farchnad fechan yw Tregaron,wedi ei lleoli mewn rhan digon diarffordd o Geredigion yn ymyl mynyddoedd y Cambrian,lle ceir cyfleon arbennig i gerdded,dringo,gwylio adar,beicio mynydd ynghyd a nifer eraill o weithgareddau awyr agored.Gallwn gynnig gwybodaeth sut medrwch fod yn rhan o’r cyfleon rhagorol yma,tra ar yr un pryd cynnig cyfleon am weithgareddau dan do.

Gan fod ein Neuadd chwaraeon yn fawr ,gallwn gynnig digon o le ar gyfer partion o faint mwy na’r cyffredin,gan gynnwys castell fownsio i’r plant. Gan mai menter gymunedol yw hon,os hoffech i ni gynnig gweithgaredd Newydd,mae croeso i chi siarad gydag un o’n ymddiriedolwyr,ac fe wnawn ein gorau i’ch bodloni,a’ch cynorthwyo i gychwyn neu gadael i chi fel gwirfoddolwr i wneud eich trefniadau eich hun.

Ar hyn o bryd rydym ar agor o 4 y prynhawn tan 9 yr hwyr o ddydd Llun tan ddydd Gwener ar gyfer ymwelwyr sy’n dymuno gwneud defnydd o’r gampfa,cwrt sboncen neu unrhyw gyfleuster arall.Rydym hefyd ar agor ar adegau eraill,gan gynnwys penwythnosau,ar gyfer gwahanol weithgareddau-cymerwch gip ar ein rhaglen gyfredol.Yn wir,os yw’r Neuadd yn rhydd,gallwch ei llogi unrhyw amser.

Mae ein cyfleusterau hefyd yn cynnwys cawodydd i’r dynion a’r merched,toiledau ,ystafelloedd newid a thoiled i bobl ag anabledd.

Ein Cyfleusterau

NEUADD CHWARAEON

Mae ein Neuadd chwaraeon fawr yn cynnwys 4 cwrt badminton,cwrt pel fasged maint cywir,cwrt tenis byr,pel rwyd a hoci dan do,ac wrth gwrs 2 gol pel droed 5-bob-ochr.

Cymerwch gip ar ein hamserlen

WAL DDRINGO

Mae gennym wal ddringo fechan sy’n berffaith ar gyfer dechreuwyr yng nghwmni RHYDIAN WILSON,ein hyfforddwr trwyddedig 07813702982.

Cymerwch gip ar ein hamserlen.

CWRT SBONCEN

Perffaith ar gyfer holl chwaraewyr sboncen brwdfrydig! Medrwch logi’r cwrt am £5.00 yr oedolyn am gyfnod o 45 munud.

Cymerwch gip ar ein hamserlen.

CAMPFA

Mae gennym gampfa sy’n llawn o’r cyfleusterau gorau sy’n cynnwys - 2 gamwr,2 beiriant rhedeg,3 beic,1 peiriant rhwyfo,1 peiriant pwysau a 2 ymarferwr coesau.

Cymerwch gip ar ein hamserlen

AELODAETH

Cymerwch fantais o'n cynllun aelodaeth i'r gampfa er mwyn cael defnydd diderfyn am £20.00 y mis.

CYFLEUSTERAU

Mae'n cyfleusterau'n ymestyn o gampfa gyda'r holl adnoddau angenrheidiol,i gwrt sboncen a Neuadd chwaraeon,ac hefyd ystafell gyfarfod llai o faint yn ol yr angen.

LLOGWCH EIN NEUADD/ CLWB CHWARAEON

Ffoniwch 01974 298960 neu cysylltwch a ni'n uniongyrchol er mwyn trafod eich anghenion ar gyfer llogi'r Neuadd.

CHWILIWCH AMDANON NI

Rydym wedi ein lleoli ar iard yr Orsaf gerllaw Amaethwyr Ceredigion a siop nwyddau Caron Stores. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

CLOSE
CLOSE